Fe fydd cynrychiolwyr a chyfreithwyr pobol sydd wedi diodde’ o gam-drin rhywiol yn galw am ymddiswyddiad y gyfreithwraig sydd wedi ei phenodi i arwain ymchwiliad i droseddau rhyw hanesyddol.

Yn eu cyfarfod cynta’ gyda phanel yr ymchwiliad, fe fyddan nhw’n gofyn i Fiona Woolf dderbyn nad oes gan bobol ffydd ynddi a mynd.

Mae pwysau cynyddol wedi bod ar y gyfreithwraig o Lundain i gamu o’r neilltu yn sgil ei pherthynas gyfeillgar â’r Arglwydd Brittan – y cyn-Ysgrifennydd Cartref sy’n cael ei gyhuddo o fethu ag ymateb i honiadau o gam-drin yn y 1980au.

Amheuon

Mae disgwyl i’w rôl ddod o dan y chwyddwydr yn ystod yr ymchwiliad ac mae amheuon wedi codi ynglŷn â pha mor briodol fyddai caniatáu i Fiona Woolf barhau i arwain y gwaith.

Does dim disgwyl i Fiona Woolf ei hun fod yn y cyfarfod heddiw, ond fe fydd y gyfreithwraig Alison Millar, sy’n cynrychioli pobol gafodd eu cam-drin, yn galw arni i gamu o’r neilltu am “nad oes gan y cleientiaid ffydd ynddi”.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref, Keith Vaz, bod rhaid i Fiona Woolf bednerfynu os yw hi am barahu i gadeirio’r ymchwiliad ai peidio.

Honiadau

Mae yna honiadau heddiw ei bod hi a’r Swyddfa Gartref wedi ceisio cuddio maint y cysylltiadau rhyngddi hi a Leon Brittan a oedd yn byw yn yr un stryd â hi ac wedi bod mewn sawl swper yn ei chartref.

Mae yna eraill yn dweud ei bod  hi’n ormod rhan o’r Sefydliad – yr union garfan sy’n ganolog i rai o’r honiadau – ond mae hi wedi mynnu nad oedd yn ffrind agos i Leon Brittan ac y byddai’n gallu gwneud y gwaith yn ddiduedd.

Roedd cadeirydd gwreiddiol y panel, y Farwnes Butler-Schloss, wedi ymddiswyddo oherwydd ei body yn chwaer i Michael Havers a fu’n Dwrnai Cyffredinol yn yr un cyfnod.