Llun answyddogol o'r rhedwr yn nesu at David Cameron (PA)
Mae aelod seneddol wedi galw am ymchwiliad wedi i aelod o’r redeg ar draws Prif Weinidog Prydain.

Er mai damwain oedd y gwrthdrawiad, ofn y gwleidydd yw y gallai rhywun gwirioneddol beryglus fod wedi gwneud yr un peth.

Maen debyg bod y dyn ar y ffordd i’r gampfa pan redodd tuag at David Cameron y tu allan i Neuadd Ddinesig Leeds, ble’r oedd y Prif Weinidog wedi bod yn siarad mewn digwyddiad.

Ochr-gamu

Mae lluniau fideo o’r digwyddiad yn dangos y Prif Weinidog yn paratoi ei hun am wrthdrawiad wrth i’r dyn 28 mlwydd oed redeg yn gyflym tuag ato.

Dywedodd un tyst bod David Cameron wedi ceisio ochr-gamu’r dyn 28 oed a chafodd hwnnw ei arestio am ychydig cyn ei ryddhau.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog nad oedd “dim byd sinistr” am y digwyddiad, ond bod y dyn  “yn y lle anghywir ar yr amser anghywir”.

Ond mae aelod seneddol Torïaidd, Mark Pritchard, wedi galw am ymchwiliad llawn i sut y gwnaeth tîm diogelwch Heddlu Llundain ganiatáu i’r dyn i ddod mor agos at y Prif Weinidog.