Michael Moore
Cyn-Ysgrifennydd Yr Alban, Michael Moore fydd yn arwain trafodaethau’r Democratiaid Rhyddfrydol ynghylch rhoi rhagor o bwerau i’r Alban.

Bydd yn cydweithio â chyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Albanaidd, Tavish Scott i gyflwyno safbwyntiau ei blaid yn ystod y broses.

Byddan nhw’n arwain Comisiwn Datganoli’r Alban a gafodd ei sefydlu gan yr Arglwydd Smith o Kelvin.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ffafrio ffederaleiddio’r Deyrnas Unedig ers dros ganrif, ond maen nhw’n cyfaddef na fydd hyn yn bosib ar y cynnig cyntaf.

Ond fe fydd unrhyw gytundeb o du’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddibynnol ar yr egwyddor o ffederaleiddio.

Mewn datganiad, dywedodd Michael Moore fod angen bod “mor uchelgeisiol ag y gallwn ni fod”, a dywedodd fod y trafodaethau’n gyfle i “ehangu ein gorwelion”.

Dywedodd mai blaenoriaeth ei blaid fyddai “gwthio’r pwerau i’r eithaf sy’n gyson â DU ffederal”.

Ddoe, dywedodd Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, John Swinney fod y nod o ffederaleiddio ymhen dwy flynedd yn “nod bwysig yn y math o gytundeb sy’n rhaid ei sicrhau”.

Ond mae pryderon o hyd y gallai dymuniad David Cameron i weld Lloegr yn cael ei datganoli arafu’r broses o sicrhau rhagor o bwerau i’r Alban.