Nick Clegg - 'consensws' yn tyfu, meddai
Mae Dirprwy Brif Weinidog Prydain wedi dweud ei bod hi’n bryd ystyried datganoli pwerau i ardaloedd yn Lloegr yn sgil y drafodaeth ar annibyniaeth yn yr Alban.

Dywedodd Nick Clegg fod consensws yn dechrau ffurfio ymysg y tair prif blaid Brydeinig fod angen datganoli rhywfaint o bwerau i ranbarthau yn Lloegr.

Fe fydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn lansio adroddiad gan gorff ymchwil, IPPR North, sydd yn galw am do newydd o ‘metro mayors’, gyda dinas-ranbarthau fydd yn meddu ar fwy o bwerau i amrywio trethi.

Ond mae’r Ceidwadwr Eric Pickles, sydd yn Weinidog ar Gymunedau a Llywodraeth Leol, wedi rhybuddio yn erbyn creu rhanbarthau newydd fydd yn canoli’r pŵer mewn dinasoedd mawr, gan ddweud y byddai’n well rhoi mwy o bŵer i gynghorau lleol.

‘Consensws’

“Does dim ond rhaid i chi edrych ar sut mae trafodaeth annibyniaeth yr Alban wedi ailgynnau diddordeb pobol mewn gwleidyddiaeth dros yr wythnosau diwethaf i weld bod hyn yn syniad amserol,” meddai dyfyniadau sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw o araith Nick Clegg.

“Dros y degawdau diwetha’, r’yn ni wedi gweld pwerau newydd yn symud allan i bob gwlad ym Mhrydain heblaw am Loegr.

“Mae consensws newydd nawr yn ymddangos rhwng y tair prif blaid Brydeinig i ymestyn datganoli yn y dyfodol, a dw i’n credu y gallwn ni wthio ymlaen a gwireddu’n breuddwyd o Brydain gryfach, decach.”

Lloegr yn ‘amyneddgar’

Mae adroddiad yr IPPR yn dweud y dylai hyd at 40 o wahanol bwerau llywodraethu gael eu datganoli i’r dinas-ranbarthau newydd, o 13 adran wahanol o lywodraeth Prydain, ac y gallai hyn gael ei gyflawni o fewn degawd.

Fe allai’r cynllun newydd weld pwerau dros bethau fel treth eiddo, cyfraddau busnes a chyfran o dreth incwm yn cael eu datganoli i’r rhanbarthau yn Lloegr.

“Mae Lloegr wedi aros yn amyneddgar tra bod yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon wedi cael mwy a mwy o ddatganoli,” meddai cyfarwyddwr IPPR North, Ed Cox. “Nawr yw’r amser i gydbwyso hynny a datganoli pŵer i ddinas-ranbarthau Seisnig.”