Cliff Richard
Mae Rheolwr Cyffredinol y BBC a Phrif Gwnstabl Heddlu De Swydd Efrog yn wynebu cwestiynau gan Aelodau Seneddol tros sut a pham y cafodd y stori am gyrch ar gartref y canwr Cliff Richard ei rhyddhau.

Mae’r Arglwydd Tony Hall a’r Prif Gwnstabl David Crompton wedi derbyn rhybudd y bydd yn rhaid iddyn nhw roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol Materion Cartref, wedi i ASau ddychwelyd o’u gwyliau haf.

Fe ddechreuodd y ffrae wedi i’r BBC dorri’r stori am chwilio ty Cliff Richard yn Berkshire ddydd Iau diwetha’, ac wrth i griw teledu gyrraedd yno cyn yr heddlu.

Mae cadeirydd y Pwyllgor Dethol Materion Cartref, Keith Vaz, wedi ysgrifennu at Mr Crompton ac at yr Arglwydd Hall yn gofyn cyfres o gwestiynau am sut yn union y daeth y BBC i wybod am y cyrch. Mae’n digwyl atebion erbyn canol dydd, ddydd Gwener.

Mae Cliff Richard yn gwadu gwneud unrhyw beth o’i le, ac mae wedi beirniadu’r ffaith bod newyddiadurwyr y BBC yn gwybod am fwriad yr heddlu i chwilio ei eiddo.

Mae’r BBC yn dweud nad rhywun o’r tu mewn i’r Heddlu De Efrog soniodd wrthyn nhw am y digwyddiad.

Mae Heddlu De Efrog, ar y llaw arall, wedi rhyddhau datganiad yn dweud eu bod nhw wedi penderfynu “cydweithio” gyda newyddiadurwyr, wedi iddyn nhw dderbyn galwad gan y BBC.