Mae dynes wedi’i harestio gan heddlu sy’n ymchwilio i achos mewn meithrinfa yn ne-orllewin Lloegr.

Mae meithrinfa The Little Angels Nursery yn Calne, Wiltshire, wedi’i chau gan Ofsted, ac mae staff y feithrinfa bellach yn y broses o adael i rieni wybod am y datblygiadau.

Fe gafodd dynes 37 oed ei harestio ddydd Sadwrn, a’i chymryd i swyddfa heddlu Melksham. Mae hi wedi cael ei rhyddhau ar fechniaeth yr heddlu, ac mae’r ymchwiliadau yn parhau.

Roedd y feithrinfa wedi derbyn adroddiad “Da” gan Ofsted yn dilyn arolwg ar Fai 27 eleni.