Mae dyn 60 mlwydd oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i gorff menyw gael ei ddarganfod mewn ty.

Mae Heddlu Thames Valley yn dweud mai “digwyddiad domestig” a arweiniodd at y farwolaeth. Fe gawson nhw eu galw i’r cyfeiriad yn Carnarvon Place, Newbury, Berkshire toc cyn 7.30yb ddoe, ar ôl adroddiadau o styrbans.

Fe gyhoeddodd parafeddygon yn y fan a’r lle bod y ddynes wedi marw, ac fe gafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. Mae’n parhau yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio ar i gymdogion y wraig ddod yn eu blaenau gydag unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth i’r ymchwiliad.

Fe fydd prawf post mortem yn cael ei gynnal er mwyn penderfynu sut y buodd y wraig farw.