Mae dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o ymosod ar ddynes ychydig amser cyn iddi hi gael ei lladd mewn damwain ffordd.

Bu farw’r ddynes 20 oed yn yr ysbyty, wedi iddi gael ei tharo gan ddau dacsi ar Ormskirk Road, Wigan, yn gynnar fore heddiw.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle’r ddamwain tua 12.45yb, ac fe fu’n rhaid tynnu’r wraig o dan dacsi Skoda Octavia du.