Mae prisiau tai wedi codi 11.8% ar draws y DU ym mis Mehefin, yn ol Nationwide.

Mae’n golygu bod prisiau tai ar gyfartaledd bellach yn £188,903.

Dyma’r cynnydd blynyddol mwyaf ers mis Ionawr 2005.

Mae prisiau tai yn Llundain wedi cynyddu 25.8% sy’n golygu bod prisiau tai ar gyfartaledd yno bellach yn £400,000.

Ond nid Llundain yn unig sydd wedi gweld cynnydd – yn ne Cymru, gwelwyd cynnydd o 12% mewn prisiau tai ym Mro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.

Yng Nghymru mae prisiau 9.3% yn uwch na blwyddyn yn ôl, gyda phrisiau tai ar gyfartaledd yn £145,812.