Y bore yma yng Nghôr y Cewri (Llun PA)
Daeth 37,000o bobl i weld y wawr yn torri yng Nghôr y Cewri y bore yma.

Heddiw yw hirddydd haf, ac mae’n arferiad i Dderwyddon ac eraill ddod i’r heneb yn ne orlllewin Lloegr i groesawu’r haul.

Cafodd 25 o bobl eu arestio ar gyhuddiadu yn ymwneud â chyffuriau yn ôl yr heddlu, ychwanegodd eu bod wedi plesio ar y cyfan gan ymddygiad y dorf.

“Bob blwyddyn mae yna sialensau newydd i ni ar fore hirddydd haf ond mae wastad yn bleser i weld y mwyafrif o bobl yn mwynhau’r digwyddiad,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Wiltshire.