Robert Jenrick - 'Hyder yn y Llywodraeth' (Llun y blaid)
Fe lwyddodd y Ceidwadwyr i wrthsefyll cynnydd mawr arall gan UKIP a chadw sedd Newark ger Nottingham yn yr isetholiad ddoe.

Dyma’r tro cynta’ ers chwarter canrif i’r Ceidwadwyr gadw’i gafael ar sedd a nhwthau’n llywodraethu ond fe gafodd eu mwyafrif fwy na’i haneru.

Fe gododd pleidlais fwy na phum gwaith i 10,028, gyda Llafur yn drydydd a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn chweched gan golli eu hernes.

Ymateb Farage

Roedd arweinydd y blaid wrth-Ewropeaidd, Nigel Farage, wedi ystyried sefyll yn Newark ei hun ond wedi penderfynu peidio.

Ar ôl y pleidleisio ddoe fe ddywedodd mai dyma berfformiad gorau’r blaid erioed mewn is-etholiad seneddol.

“Dw i’n credu y bydd yna lawer iawn o Geidwadwyr gyda mwyafrifoedd o lain a 10,000 fydd yn edrych ar y canlyniad yma heno gydag arswyd llwyr,” meddai.

‘Hyder yn y Llywodraeth’

Ond roedd yr Aelod Seneddol newydd, y Tori Robert Jenrick, yn mynnu bod y canlyniad yn bleidlais o hyder yn y Llywodraeth.

“Mae pobol Newark wedi pleidleisio i gefnogi’r Llywodraeth yma, i gefnogi cynllun economaidd tymor hir y Llywodraeth i ddiogelu dyfodol yr etholaeth yma a’r wlad wych yma,” meddai.

Arwydd o bryder y Ceidwadwyr oedd fod y Prif Weinidog David Cameron wedi ymweld â’r etholaeth bedair gwaith yn ystod yr ymgyrch a fod pob AS Ceidwadol wedi cael gorchymyn i fynd yno deirgwaith.

Wedi gorffen y tu ôl i’r Gwyrddion ac ymgeisydd annibynnol, fe ddywedodd y Democrat Rhyddfrydol, David Watts, fod llawer o’u cefnogwyr wedi pleidleisio i gadw UKIP allan ac roedd yn dweud bod ganddo hyder llwyr yn arweinydd y blaid, Nick Clegg.

Y canlyniad yn llawn

Robert Jenrick (C) 17,431 (45.03%, -8.82%)

Roger Helmer (UKIP) 10,028 (25.91%, +22.09%)

Michael Payne (Llaf) 6,842 (17.68%, -4.65%)

Paul Baggaley (Ann) 1,891 (4.89%)

David Kirwan (Gwyrdd) 1,057 (2.73%)

David Watts (DRh) 1,004 (2.59%, -17.41%)

Nick The Flying Brick (Loony) 168 (0.43%)