Mae prisiau tai ym Mhrydain wedi cynyddu 11.1% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sef y cynnydd blynyddol mwyaf ers 2007, yn ôl cymdeithas adeiladu Nationwide.

Mae’r prisiau wedi codi yn raddol dros yr 13 mis diwethaf sy’n golygu bod gwerth cyfartalog tŷ bellach yn £186,512.

Fe gododd y prisiau 0.7% ym mis Mai ac 1.2% ym mis Ebrill, ac fe gafodd 62,918 o forgeisi – gwerth £10biliwn – eu rhoi i brynwyr ym mis Ebrill.

Arwyddion o gymedroli?

Dywedodd prif economegydd Nationwide, Robert Gardner, ei bod hi’n “rhy gynnar” i ddweud os yw’r farchnad dai yn dechrau cymedroli ond bod arwyddion o hynny’n dechrau ymddangos.

“Gyda chyfraddau morgais yn agos i fod yr isaf erioed, a’r amodau yn y farchnad lafur yn gwella, mae’r galw am dai yn debygol o aros yn gryf.

“Roedd nifer y morgeisi gafodd eu rhoi ym mis Ebrill 17% yn is na mis Ionawr,” meddai.

Mae Cymdeithas y Bancwyr Prydeinig (BAA) wedi dweud fod y ffigyrau yn profi nad yw Prydain ynghanol ymchwydd mewn prisiau tai.