Michael D Higgins
Mae disgwyl i Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins gwrdd â David Cameron yn Downing Street heddiw, wrth iddo gychwyn ail ddiwrnod ei ymweliad swyddogol cyntaf â Phrydain.

Cyn hynny, bydd Dug Efrog yn tywys yr Arlywydd i weld lliwiau’r catrodau yng nghastell Windsor, sydd wedi cael eu cadw yno ers 1922.

Mae’r ymweliad yn cael ei ystyried yn bennod newydd yn hanes y berthynas rhwng Prydain ac Iwerddon.

Bu Michael D Higgins yn cwrdd â’r Frenhines yng nghastell Windsor ddoe a bydd hefyd yn cwrdd â Maer Llundain, Boris Johnson heddiw.

Yn ogystal, bydd ymweliad yr Arlywydd yn cynnwys anerchiad i San Steffan a fydd yn canolbwyntio ar gyfraniad Gwyddelod i fywyd Prydain, gyda thrafodaeth ar hanes cyffredin y ddwy wlad.