Bob Crow
Mae arweinydd undeb y rheilffyrdd, Bob Crow, wedi marw yn 52 oed.

Mewn datganiad byr, dywedodd undeb yr RMT eu bod yn cadarnhau bod eu hysgrifennydd cyffredinol wedi marw yn ystod oriau man y bore ma.

Maen nhw wedi gwneud cais am breifatrwydd i deulu a ffrindiau Bob Crow yn ystod y cyfnod yma.

Roedd Bob Crow yn un o arweinwyr undeb mwyaf uchel eu proffil ei genhedlaeth, gan ennyn beirniadaeth gan deithwyr oedd yn cael eu heffeithio gan streiciau ar y trenau, ac edmygedd gan aelodau’r undeb am frwydro dros godiadau cyflog.

Mae ei farwolaeth wedi syfrdanu nifer o undebau llafur heddiw.

‘Ei edmygu a’i ofni’

Dywedodd Manuel Cortes, arweinydd undeb y rheilffyrdd TSSA fu’n picedu gyda Bob Crow yn ystod streic gan weithwyr ar y trenau tanddaearol fis diwethaf: “Roedd Bob Crow yn cael ei edmygu gan ei aelodau a’i ofni gan ei gyflogwyr, a dyna’n union sut yr oedd am i bethau fod.

“Roedd yn fraint cael ymgyrchu a brwydro ochr yn ochr ag ef, oherwydd nid oedd yn fodlon ildio dim.”

Dywedodd arweinydd y blaid UKIP Nigel Farage ar ei gyfrif trydar: “Wedi tristau o glywed am farwolaeth Bob Crow. Roeddwn yn ei hoffi ac roedd yntau hefyd yn sylweddoli bod cyfleoedd pobl dosbarth gweithiol yn cael eu niweidio gan yr Undeb Ewropeaidd.”

‘Newyddion trasig’

Mewn datganiad dywedodd Maer Llundain Boris Johnson: “Beth bynnag oedd ein gwahaniaethau gwleidyddol, ac roedd nifer, mae hyn yn newyddion trasig.

“Roedd Bob yn brwydro’n ddiflino am yr hyn roedd yn credu ynddo a’i aelodau.

“Does dim dwywaith ei fod wedi cyfrannu at lwyddiant y Tiwb ac roedd yn rhannu fy uchelgais i wneud trafnidiaeth yn Llundain hyd yn oed yn fwy llwyddiannus. Mae’n ddiwrnod trist.”

Dywedodd Syr Peter Hendy, Comisiynydd Trafnidiaeth Llundain: “Rydym wedi cael ein syfrdanu gan y newyddion  trist iawn ac annisgwyl yma. Mae ein meddyliau gyda theulu Bob Crow, ei ffrindiau a’r rhai roedd yn eu cynrychioli.”

‘Ffrind da i Blaid Cymru’

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi talu teyrnged i Bobl Crow. Dywedodd Leanne Wood bod y newydd wedi bod yn “sioc enbyd.”

Bu Bob Crow yn annerch cynhadledd Plaid Cymru yn 2003, yr arweinydd undeb llafur cyntaf i wneud hynny.

Dywedodd Leanne Wood bod Bob Crow wedi bod yn “hyrwyddwr dygn o hawliau aelodau’r RMT.

“Rydw i wedi rhannu llwyfan gyda Bob ac roedd yn ffrind da i Blaid Cymru,” meddai Leanne Wood.

“Roedd Bob yn rhoi pwyslais ar anghenion ei aelodau yn anad dim arall – gan gynnwys, ac yn enwedig gwleidyddiaeth bleidiol – a bydd colled enfawr ar ei ôl.

“Bydd paw bar y chwith ar draws y DU yn gweld ei golli’n fawr.”