Milwyr Rwsia mewn lifrau plaen ar strydoedd Balaklava yn Wcrain(AP Photo/Andrew Lubimov)
Mae Prif Weinidog yr Wcrain, Arsenly Yatsenyuk, yn dweud bod y wlad “ar fin distryw” ac wedi crefu ar yr Arlywydd Putin o Rwsia i alw’r cannoedd o’i filwyr sydd yn, neu ar y ffordd i’r Crimea yn ôl cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Mae’r Arlywydd Oleksandr Turchynov eisoes wedi gorchymyn lluoedd y wlad i fod yn barod oherwydd y bygythiad o “ymosodiad posibl”.

Mae confoi o gannoedd o filwyr Rwsia yn teithio tuag at brifddinas y Crimea ar hyn o bryd – diwrnod yn unig ar ôl i’r lluoedd feddianu’r penrhyn heb saethu’r un fwled.

Mae’r Press Association yn dweud bod dynion arfog mewn iwnifforms heb fathodynau yn symud yn rhwydd o le i le ar hyn penrhyn y Crimea gan feddianu meusydd awyr, malu offer mewn canolfan awyrlu a chynnal gwarchae y tu allan i ganolfan filwrol yr Wcrain yn Privolnoye.

Yn ôl PA mae gan eu cerbydau blatiau trwydded Rwsiaidd ac mae nhw wedi cael eu parcio y tu allan i’r ganolfan yn y ffasiwn fodd hyd nes bod milwyr Wcrian yn methu gadael y safle a bod rheiny wedyn wedi gosod tanc ger y fynedfa.

‘Dyw llywodraeth newydd yr Wcrain ddim wedi gallu ymateb i dactegau milwrol Rwsia hyd yn hyn ond mae gwledydd y gorllewin a’r Cenhedloedd Unedig wedi beirniadu Rwsia am fynd i mewn i’r Crimea.

Ymateb

Mae’r Arlywydd Obama wedi galw ar yr Arlywydd Putin i dynnu ei luoedd allan o’r Crimea ac fe fu’r ddau yn trafod y sefyllfa ar y ffôn am awr a hanner neithiwr.

Yn ogystal, mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithau, John Kerry wedi rhybuddio y bydd Rwsia yn dioddef yn economaidd oherwydd yr hyn sydd yn digwydd.

Wrth siarad ar CBS yn America, rhybuddiodd y gallai Rwsia gael ei thaflu allan o’r Grŵp o Wyth gwlad ddatblygedig.

Mae gwledydd y G8 i fod i gyfarfod yn Sochi yn Rwsia ym mis Mehefin ac mae’r Unol Daleithau, y Deyrnas Unedig, Ffrainc a Canada eisoes wedi tynnu allan o’r cyfarfodydd paratoadol.

“Tydych chi ddim yn y 21 ganrif yn ymddwyn yn null y 19 ganrif gan lifo i mewn i wlad rhywun arall ar unrhyw hen esgus ffug,” meddai Mr Kerry.

Mae Mr Obama wedi trafod y sefyllfa hefyd efo Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande a Phrif Weinidog Canada, Stephen Harper ac mae Canada wedi galw ei llysgennad adref o Moscow mewn protest yn erbyn yr hyn sy’n digwydd.

Hague ar ei ffordd i’r Wcrain

Yn y cyfamser mae’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague ar ei ffordd i’r Wcrain a bydd yn cyfarfod arweinwyr newydd y llywodraeth dros dro yn Kiev.

“Byddaf yn ail-adrodd cefnogaeth y DU i gywirdeb tiriogaethol yr Wcrain,” meddai. “Byddaf hefyd yn trafod sut y gall y DU gefnogi llywodraeth yr Wcrain i adfer asedau sydd wedi cael eu caffael yn amrhiodol.”

Y Cenhedloedd Unedig

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon wedi annog yr Arlywydd Putin i “gysylltu yn uniongyrchol efo’r awdurdodau” yn Kiev.

Fe wnaeth y Cyngor Diolgewlch gynnal cyfarfod brys am yr ail ddiwrnod yn olynol wrth i’r sefyllfa waethygu ond chafwyd dim penderfyniad gan fod gan Rwsia, sy’n aelod o’r Cyngor, rym feto ac felly mae’n gallu atal y Cyngor rhag mabwysiadu unrhyw gynnig sy’n beirniadu neu gosod sancsiynnau ar Moscow.

NATO

Mae NATO hefyd wedi bod yn cynnal cyfarfodydd brys ym Mrwsel i drafod y sefyllfa.

Cyn mynd i un cyfarfod dywedodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Anders Fogh Rasmussen bod anfon y milwyr i’r Crimea yn gwbl groes i siarter y Cenhedloedd Unedig ac yn bygwth heddwch a diogelwch yn Ewrop.

Safbwynt Rwsia

Mae’r Crimea yn weriniaeth hunanlywodraethol oddi mewn i Wcrain ar hyn o bryd.

Roedd y penrhyn yn rhan o’r Undeb Sofietaidd tan 1954 ac mae’r rhan fwyaf o’r 2.3 miliwn o drigolion hyd heddiw yn siarad Rwsieg ac yn credu eu bod o dras Rwsiaidd.

Mae llawer o drigolion y Crimea yn cefnogi y cyn Arlywydd Viktor Yanukovuych gafodd ei ddisodli yr wythnos diwethaf ac mae rhai yn credu y dylai’r Crimea adael yr Wcrain.

Mae’r Crimea hefyd yn strategol bwysig i Rwsia gan fod ganddi ganolfan i’w llynges yn ninas Sevastopol.

Mae’r Arlywydd Putin felly yn honni bod yna berygl go iawn i fywyd a iechyd dinasyddion Rwsia sydd yn byw yn yr Wcrain, a bod gan Rwsia yr hawl i warchod ei buddiannau yno.