Llun: AP Photo/Andrew Lubimov)
Mae Arlywydd yr Wcrain wedi gorchymyn lluoedd y wlad i fod yn barod oherwydd y bygythiad o “ymosodiad posibl”

Wrth annerch ar deledu’r wlad, dywedodd Oleksandr Turchynov ei fod hefyd wedi gorchymyn rhagor o fesurau diogelwch mewn gorsafoedd niwcliar, meusydd awyr ac adeiladau a mannau pwysig eraill.

Daeth y gorchymyn ar ôl i uwch senedd Rwsia ganiatau cais yr Arlywydd Putin i anfon milwyr i’r Wcrain ac ar ôl i filwyr o Rwsia fynd i rai mannau yn y Crimea – rhan ddwyreiniol o’r Wcrain sy’n gefnogol i Rwsia.

Cafodd nifer o brotestiadau yn cefnogi Rwsia eu cynnal ar hyd a lled dwyrain yr Wcrain dros nos gyda phrotestwyr yn codi baneri Rwsia ac yn ymosod ar gefnogwyr llywodraeth newydd yr Wcrain.

Putin ac Obama

Mae’r Unol Daleithau eisoes wedi dweud wrth Rwsia y bydd yna “gost” os y bydd yn ymyrryd yn filwrol yn yr Wcrain.

Bellach mae’r Arlywydd Obama wedi galw ar yr Arlywydd Putin i dynnu ei luoedd allan o’r Crimea ac fe fu’r ddau yn trafod y sefyllfa ar y ffôn am awr a hanner neithiwr.

Mae’r Arlywydd Putin yn dweud bod yna berygl go iawn i fywyd a iechyd dinasyddion Rwsia sydd yn byw yn yr Wcrain, a bod gan Rwsia yr hawl i warchod ei buddiannau yno hefyd.

Mae Mr Obama wedi trafod y sefyllfa hefyd efo Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande a Phrif Weinidog Canada, Stephen Harper.

Mae Canada wedi galw ei llysgennad adref o Moscow mewn protest yn erbyn yr hyn sy’n digwydd.

Y Cenhedloedd Unedig

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon wedi annog yr Arlywydd Putin i “gysylltu yn uniongyrchol efo’r awdurdodau” yn Kiev.

Fe wnaeth y Cyngor Diolgewlch gynnal cyfarfod brys am yr ail ddiwrnod yn olynol wrth i’r sefyllfa waethygu ond chafwyd dim penderfyniad gan fod gan Rwsia, sy’n aelod o’r Cyngor, rym feto ac felly mae’n gallu atal y Cyngor rhag mabwysiadu unrhyw gynnig sy’n beirniadu neu gosod sancsiynnau ar Moscow.

Hague ar ei ffordd i’r Wcrain

Yn y cyfamser bydd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague yn teithio i Kiev heddiw i gyfarfod arweinwyr newydd llywodraeth dros dro yr Wcrain.

“Byddaf yn ail-adrodd cefnogaeth y DU i gywirdeb tiriogaethol yr Wcrain,” meddai. “Byddaf hefyd yn trafod sut y gall y DU gefnogi llywodraeth yr Wcrain i adfer asedau sydd wedi cael eu caffael yn amrhiodol.”

Mae’r Prif Weinidog, David Cameron wedi dweud wrth Moscow “nad oes esgus” i ymyrryd yn filwrol yn yr Wcrain gan ychawnegu ei fod wedi rhybuddio’r Arlywydd Putin mewn sgwrs ffôn “bod y byd yn cadw llygad” ar yr hyn sy’n digwydd.