Mae astudiaeth annibynnol o’r modd y mae moch daear yn cael eu lladd fel rhan o brosiect difa, yn dangos fod gormod o’r creaduriaid wedi diodde’ yn ddiangen.

Ac mae gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan lywodraeth Prydain yn dangos fod nifer y moch daear a laddwyd yng Ngwlad yr Haf a Sir Gaerloyw wedi syrthio’n brin o’r targedau oedd wedi’u gosod er mwyn ceisio rhwystro ymlediad y diciâu mewn gwartheg.

Roedd 5% o’r moch daear wedi cymryd mwy na phum munud i farw, yn ôl y gwaith ymchwil – ac mae hynny’n mynd yn groes i’r canllawiau ar greulondeb.

Fe gafodd y Panel Arbenigwyr Annibynnol ei benodi gan Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Defra) er mwyn mesur llwyddiant y cynlluniau peilot. Fe gafodd saethwyr eu defnyddio i ladd y moch daear yn y nos, gyda’r nod o ladd beth bynnag 70% o’r creaduriaid o fewn cyfnod o chwe wythnos.

Fe gafodd cyfnod y cynlluniau ei ymestyn wedyn, wedi i’r ystadegau cynta’ awgrymu mai dim ond 58% o foch daear Gwlad yr Haf a 30% o foch daear Sir Gaerloyw, oedd wedi’u difa. Ond, mae’r gwaith ymchwil diweddara’ hwn yn mynnu fod y niferoedd hyd yn oed yn is na hynny.

O ran osgoi creulondeb i’r creaduriaid, roedd Defra wedi cytuno y byddai’n rhaid i 95% o’r moch daear fewn o fewn pum munud i gael eu saethu. Ond mae adroddiad y panel arbenigwyr yn dweud fod rhwng 6.4% a 18% o’r anifeiliaid yn diodde’ am yn hirach na hynny cyn marw.

Fe fydd adroddiad y panel yn cael ei gyhoeddi’n llawn maes o law, ond does dim dyddiad wedi’i roi ar gyfer hynny eto.