Fe fydd holiaduron yn cael eu hanfon i tua 26 miliwn o gartrefi ar draws Cymru a Lloegr heddiw wrth i Gyfrifiad 2011 ddechrau.

Fe fydd yr holiaduron yn dechrau disgyn drwy flychau post tai bore yfory. Mae hysbysebion wedi eu darlledu er 21 Chwefror er mwyn tynnu sylw pobol at y cyfrifiad ar 27 Mawrth.

Bydd y cyfrifiad yn costio £482 miliwn ac yn cyflogi 35,000 o weithwyr.

Mae’r holiaduron yn gofyn amryw o gwestiynau am hunaniaeth, ethnigedd, iaith, addysg, teitlau swyddi, sut y mae pobol yn mynd i’r gwaith, ac iechyd.

Ni fydd yna gwestiynau am incwm, tuedd rhywiol na chwaith anabledd.

Dangosodd gyfrifiad 2001 gynnydd yng nghanran poblogaeth Cymru oedd yn siarad Cymraeg am y tro cyntaf ers degawdau, o 18.5% yn 1991 i 20.5%.

Cyfrif ar y we

Fe fydd Cyfrifiad 2011 yn gwneud defnydd o’r we gan annog pobol i lenwi eu ffurflenni cyfrifiad ar-lein.

Yn ôl y trefnwyr fe fydd y data yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau iechyd, cynghorau ac ystod eang o gyrff eraill er mwyn cynllunio gwasanaethau.

Fe fydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan haneswyr, academyddion a phobol sydd eisiau hel achau yn y dyfodol.

Fe fydd y wybodaeth sy’n cael ei gasglu yn gudd am 100 mlynedd, ac ni fydd yn cael ei rannu â’r heddlu na’r awdurdodau treth.

“Fe ddylai pobol gadw llygad am yr amlen biws a gwyn fydd yn dod drwy’r drws yn ystod y pythefnos nesaf,” meddai cyfarwyddwr y censws, Glen Watson.

“Unwaith mae gan bobol y cyfrifiad fe fydd modd ei lenwi ar lein ar www.census.gov.uk. Fe fyddai hynny’n gynt ac yn haws i ni na cheisio deall llawysgrifen pobol!”

Mae’n rhaid llenwi ffurflen cyfrifiad ac mae dirwy o £1,000 os nad yw’n cael ei lenwi a’i ddychwelyd.