Gallai prisiau petrol saethu i £2 y litr os bydd yr ansefydlogrwydd yn Libya a’r gwledydd cyfagos yn gwaethygu, yn ôl un o weinidogion y llywodraeth.

Rhybuddia Alan Duncan, cyn-fasnachwr olew, y gall pris olew crai godi uwchlaw 200 doler y gasgen – sy’n sylweddol uwch na’r record bresennol o 147 doler y gasgen ym mis Gorffennaf 2008.

Petai’n codi i 250 doler y gasgen o ganlyniad i gynnydd mewn helyntion, fe fyddai’n golygu £2 y litr i fodurwyr ym Mhrydain.

Daw ei rybudd wrth i’r sefyllfa yn Libya ymddangos fel petai’n gwaethygu.

“Dw i wedi bod yn dweud yn y llywodraeth ers dau fis, y gallai £1.30 am litr o betrol ymddangos yn rhad os bydd pethau’n mynd o chwith,” meddai.

Ychwanegodd y gweinidog datblygu rhyngwladol: “Gallai fod yn ddifrifol iawn. Os yw olew crai’n dyblu, byddwch yn cael codiad difrifol mewn prisiau petrol. Ceisiwch fyw hebddo am wythnos.”