Banciau'r Ddinas yn Llundain
Mae Llywodraethwr Banc Lloegr wedi rhybuddio bod Prydain mewn perygl o ddioddef argyfwng ariannol arall oni fydd diwygiadau sylfaenol yn cael eu gwneud i’r sector banciau.

Dywed Mervyn King fod problemau o hyd a bod “anghydbwysedd” yn y system “yn dechrau tyfu eto”.

Pwysodd ar fanciau’r stryd fawr i gymryd agwedd mwy hirdymor at eu busnes yn hytrach na cheisio sicrhau’r “uchafswm o elw’r wythnos nesaf”.

Daw ei sylwadau wrth i gomisiwn gan y Llywodraeth ystyried a ddylid gorfodi i sefydliadau ariannol wahanu eu hadrannau manwerthu a buddsoddi.

“Rydym wedi caniatáu system bancio sy’n cynnwys hadau ei dinistr ei hun,” meddai Mervyn King. “Dydyn ni byth wedi datrys y broblem ‘rhy fawr i fethu’ neu fel mae’n well gen i ei galw, ‘rhy bwysig i fethu’. Ddylai dim lle i’r cysyniad o fod  yn rhy bwysig i fethu mewn economi farchnad.”

Mae Mervyn King o’r farn y gallai’r diwylliant o elw tymor byr a thaliadau bonws fod yn gyfrifol am y problemau.

“Mae gan ddiwydiannau traddodiadol ffordd fwy ‘moesol’ o weithredu,” meddai. “Maen nhw â chonsyrn am eu gweithlu, am eu cwsmeriaid, ac yn fwy na dim, yn falch o’u cynhyrchion.

“Gyda’r banciau does dim teimlad tebyg o berthynas tymor hirach. Mae agwedd wahanol tuag at gwsmeriaid. Mae cwmnïau bach a chanolig yn sylwi o ddifrif ar hyn: maen nhw’n colli’r bobl y maen nhw’n eu hadnabod.

“Mae fel petai gwneud arian o gwsmeriaid, mewn unrhyw ffordd, yn gwbl dderbyniol.”