Mark Serwotka
Wrth baratoi at rali brotest yng Nghaerdydd, mae arweinydd undeb wedi rhybuddio Llywodraeth Prydain eu  bod am weld gwrthwynebiad “yn fwy na dim y maen nhw wedi ei weld o’r blaen”.

Yn ôl y Cymro, Mark Serwotka, fe allai hynny olygu gweithredu diwydiannol ar y cyd rhwng yr holl undebau llafur yn y maes cyhoeddus.

Ysgrifennydd Cyffredinol undeb gweision sifil y PCS fydd un o’r siaradwyr yn y rali sy’n cael ei chynnal yn erbyn y toriadau mewn gwario cyhoeddus.

Mae wedi ei galw i gyd-daro gyda chynadleddau’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr yng Nghaerdydd ac yn paratoi’r ffordd at rali fawr Brydeinig yn Llundain ymhen tair wythnos.

Colli swyddi yn Nhŷ’r Cwmnïau

Fe fydd min ychwanegol i’r protestio heddiw oherwydd y cyhoeddiad ddoe y bydd 250 o swyddi’n mynd yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd.

Yn ôl undeb y PCS, mae yna amheuaeth bod y rheiny’n fwy nag sydd ei angen er mwyn arbedion mewnol – maen nhw’n amau bod gwasanaethau’n cael eu symud o asiantaethau fel Tŷ’r Cwmnïau i’w gosod mewn ychydig o ganolfannau canolog.

Momentwm, meddai Serwotka

“Rhaid i ni adeiladu momentwm fel bod pobol yng Nghymru’n dangos nad ydyn nhw am dderbyn y toriadau,” meddai Mark Serwotka.

Fe allai hynny fod trwy’r bwlch pleidleisio – fel yn Barnsley ddydd Iau – neu trwy brotestiadau ar y strydoedd neu, yn y pen draw, trwy “weithredu diwydiannol ar y cyd”.

“Yn ogystal â bod yn gwbl ddiangen, mae toriadau’r Llywodraeth yn giaidd a chreulon ac maen nhw’n cael eu gorfodi ar awdurdodau cyhoeddus gan weinidogion sydd fel petaen nhw’n dilyn ideoleg yn slafaidd,” meddai.