Liam Fox
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi bod yn talu £22 am fylbiau golau oedd yn cael eu gwerthu am 65c, datgelwyd heddiw.

Mae’n debyg bod penaethiaid yr adran hefyd wedi talu £103 am sgriwiau oedd yn cael eu gwerthu ar-lein am £2.60.

Daw’r gwario mawr i sylw’r cyhoedd ychydig ddiwrnodau ar ôl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi y bydd tua 11,000 o bobol yn colli eu swyddi ym Mhrydain.

Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, wedi beirniadu’r prisiau gan ddweud eu bod yn dangos “diffyg synnwyr cyffredin” a’u bod yn dystiolaeth o “wastraffu arian trethdalwyr”.

‘Ffortiwn’

“Rydych chi’n son am ffortiwn. Os ydw i’n archebu 100 o’r bylbiau hyn – mae hynny dros ddwy fil o bunnoedd,” meddai milwr wrth bapur newydd y Sun.

“Ond, mae’n bosibl cael rhai am 65c yr un, yr union rai.

“Mae’n rhaid bod miloedd o fylbiau yn cael eu defnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Pe bai pobl yn talu sylw i bethau syml fel hyn, bydden nhw’n gallu arbed llawer o arian, a swyddi efallai.”

Yn ôl y milwr, nad oedd am gael ei enwi gan y papur, mae’r pris mawr yn cael ei ychwanegu gan gontractwyr sy’n prynu offer ar ran y fyddin.

Dywedodd Liam Fox bod rhaid “amddiffyn swyddi rheng flaen” ac nad oedd modd esgusodi’r gwastraff arian.

‘Gwastraffu’

“Mae’n dystiolaeth bod y Blaid Lafur wedi gwastraffu arian y trethdalwyr ac mae’n dangos diffyg synnwyr cyffredin” meddai Liam Fox.

“Dim rhyfedd fod gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ddiffyg ariannol o £38 biliwn.”