Dan Jarvis (o wefan y Blaid Lafur)
Fe ddisgynnodd y Democratiaid Rhyddfrydol i’r chweched safle yn yr isetholiad yn Barnsley ddoe.

Roedd plaid asgell dde eithafol y BNP ac ymgeisydd annibynnol yn uwch na nhw yn y bleidlais yn etholaeth Canol Barnsley, a gafodd ei galw ar ôl ymddiswyddiad Eric Illsley o’r Blaid Lafur.

Er ei fod ef wedi cael ei garcharu am dwyllo tros ei lwfansau seneddol, fe enillodd Llafur yn gyfforddus iawn, gan godi eu canran o fwy nag 13%.

Fe gafodd yr enillydd, y cyn-filwr Dan Jarvis, bleidlais o 14,274 a mwyafrif o bron 12,000.

UKIP oedd yn ail ar 2,953, bron 1,000 o bleidleisiau o flaen y Ceidwadwyr, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn colli eu hernes ar ddim ond 1,012.

Fe gafodd y BNP 451 o bleidleisiau yn fwy na nhw.

Fe ddywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, bod yr amgylchiadau yng Nghanol Barnsley yn rhai eithriadol.