Cheryl Gillan
Mae cyn Ysgrifennydd Cymru yn parhau gyda’i gwrthryfel yn erbyn Llywodraeth Prydain tros y lein rheilffordd gyflym newydd.

Mae Cheryl Gillan yn dweud bod gwybodaeth bwysig wedi cael ei hepgor o’r datganiad am effeithiau amgylcheddol y datblygiad.

Ac mae wedi galw am ymestyn y dyddiad ar gyfer diwedd yr ymgynghori ar y lein sy’n mynd trwy ei hetholaeth hi yn Amersham a Chesham yn ne Lloegr.

Mae wedi cyhuddo’r Llywodraeth a chwmni HS2 o gamgymeriadau gweinyddol yn ymwneud â’r ymgynghori.

Doedd grwpiau amgylcheddol ddim yn gallu cael gafael ar fapiau sy’n dangos effaith dympio miliwn metr ciwbig o bridd, meddai.

Cheryl Gillan, sy’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol, oedd Ysgrifennydd Cymru o 2010 tan 2012.