Cafodd 25 o bobl eu hachub gan griwiau tân ar ôl cael eu caethiwo yn eu ceir gan lifogydd yn ystod y nos.

Dywed gwasanaeth tân swydd Dorset i bobl gael eu helpu yn Sturminster, Blandford, Shaftesbury, Sherbourne a Wimborne.

Ar ôl noson o wyntoedd cryf a glaw trwm, parhau mae’r trafferthion ledled Prydain heddiw i deithwyr sy’n ceisio dychwelyd adref dros y Nadolig.