Mae Comic Relief wedi amddiffyn ei pholisi buddsoddi ar ôl i raglen Panorama’r BBC honni fod yr elusen wedi buddsoddi mewn cwmnïau tybaco, arfau ac alcohol yn y gorffennol.

Dywed Comic Relief ei bod wedi osgoi defnyddio polisi o fuddsoddi moesol oherwydd eu bod yn ceisio codi cymaint o arian a phosib i’r elusen ac y bydden nhw’n croesawu buddsoddiadau moesol petai nhw’n cynhyrchu mwy o arian.

Ond mae Panorama’n dadlau y gallen nhw fod wedi gwneud mwy o arian drwy fuddsoddi mewn cwmnïau mwy “moesol”.

Mae’r rhaglen hefyd yn dweud iddyn nhw weld tystiolaeth fod elusen Achub y Plant wedi ymwrthod yn fwriadol rhag beirniadu cwmnïau ynni mawr am eu prisiau tanwydd oherwydd eu bod nhw’n gyndyn o fynd yn groes i bartneriaid corfforaethol.

Mae Comic Relief wedi codi agos i £1biliwn ers ei sefydlu yn 1985 ac mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i weithredu llu o brosiectau elusennol ym Mhrydain a thu hwnt, yn ogystal â chael ei ddosbarthu i elusennau eraill.

Oherwydd nad yw’r holl arian yn cael ei wario ar unwaith, a bod rhywfaint ohono’n cael ei gadw wrth gefn bob blwyddyn, mae rhan ohono’n cael ei fuddsoddi mewn cronfeydd ar adegau – gan gynnwys cwmnïau sydd yn ymddangos i fynd yn groes i amcanion yr elusen.

Mynd yn groes i’w neges?

Dywed rhaglen Panorama fod yr elusen yn berchen ar gyfranddaliadau gwerth £630,000 yn BAE Systems, cwmni cynhyrchu arfau, yn 2009 – er gwaethaf y ffaith fod eu cenhadaeth yn datgan ymrwymiad i helpu “pobl sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro”.

Yn yr un flwyddyn, roedd £3miliwn o’i harian wedi’i fuddsoddi cwmnïau tybaco tra’i bod hi ar yr un pryd yn rhoi arian tuag at ymladd TB, afiechyd ble mae ysmygu’n medru cyfrannu ato.

Ar yr un pryd roedd yr elusen wedi buddsoddi £300,000 yn y diwydiant alcohol er eu bod nhw’n ceisio brwydro yn erbyn camddefnydd o alcohol.

Yn ôl Panorama nid oedd yr elusen yn fodlon datgelu ei buddsoddiadau presennol.

“Gwneud y mwyaf o’r arian”

Mewn datganiad dywedodd yr elusen: “Mae canllawiau’r Comisiwn Elusennol yn glir fod yn rhaid i elusennau wneud y mwyaf o’r arian yn eu gofal. I Comic Relief, oherwydd bod yr ystod o faterion rydyn ni’n cefnogi mor eang, byddai sgrinio moesol yn lleihau’n gallu ni i fuddsoddi yn sylweddol ac yn cynyddu’r risg ariannol.

“Rydym yn rhoi’n harian i mewn i gronfeydd mawr rheoledig, fel llawer o elusennau a chronfeydd pensiynau eraill. Dydyn ni ddim yn buddsoddi’n uniongyrchol mewn unrhyw gwmnïau. Rydym yn credu mai’r dull yma sydd wedi dod a’r mwyaf o fudd i bobl fregus.

“Mae’r polisi wedi dwyn ffrwyth dros y blynyddoedd. Mae hwn yn faes cymhleth, ac fe fyddwn ni’n ei gadw o dan oruchwyliaeth.”

Achub y Plant yn gwadu’r cyhuddiadau

Dywedodd elusen Achub y Plant eu bod yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn eu bod wedi sensro ei beirniadaeth o’r diwydiant  ynni mawr oedd mewn partneriaeth â hwy.

Yn ôl papur newydd yr Independent, fe benderfynodd yr elusen i beidio â rhyddhau datganiad i’r wasg yn beirniadu Nwy Prydain am godi prisiau oherwydd bod ganddynt bartneriaeth, yn ogystal â gollwng ymgyrch ar effaith tlodi ynni ar blant oherwydd bod EDF yn ystyried rhoi arian i’r elusen.

“Mae’n anghywir a chamarweiniol i awgrymu bod modd prynu’n distawrwydd ni,” meddai prif weithredwr Achub y Plant Justin Forsyth. “Fe fyddwn ni’n parhau i ymgyrchu ym mhob maes rydyn ni’n credu sydd o bwys er mwyn achub bywydau plant yn y wlad hon a thramor.

“Wrth harneisio pŵer y sector breifat mewn ffordd chwyldroadol gallwn gael fwy o effaith nag erioed o’r blaen.

“Ni fuasai Achub y Plant yn peryglu ein gwerthoedd a’n hachos wrth dynnu yn ôl o ymgyrch oherwydd arian gan ein partneriaethau corfforaethol.”

Bydd rhaglen Panorama yn cael ei darlledu ar BBC1 am 10.35yh heno.