Dyblodd elw cwmni bancio mwyaf Ewrop, HSBC, yn 2010.

Cyhoeddodd y cwmni heddiw eu bod nhw wedi gwneud elw o £12 biliwn y llynedd, ar ôl gwneud elw o £4.4 biliwn yn 2009.

Dyna’r elw mwyaf ymysg y banciau sy’n weithredol ym Mhrydain, ac yn dychwelyd i’r un lefel a chyn yr argyfwng ariannol. Fe wnaeth y cwmni elw o £15 biliwn yn 2007.

Er gwaetha’r elw mawr dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi talu 15% yn llai mewn bonwsau i’w bancwyr y llynedd.

Ond doedd dim ffigyrau yn manylu ar union faint bonwsau y bancwyr, heblaw am fonws y prif weithredwr – sef £5.2 miliwn.

Er gwaetha’r elw mawr, roedd ychydig yn is na’r £12.3 biliwn yr oedd cyfranddalwyr wedi ei ddisgwyl.

Roedden nhw hefyd yn siomedig wrth i HSBC gyhoeddi nad oedd yn disgwyl gwneud cymaint o elw yn y dyfodol oherwydd rheolau byd-eang llymach ar fanciau.