Mairead a Mick Philpott adeg cynhadledd i'r wasg wedi'r tan (Gwifren PA)
Mae mam a gafodd ei dedfrydu i garchar am 17 mlynedd am ladd ei chwech o blant mewn tân yn eu cartref wedi colli’i hail apêl yn erbyn ei chyfnod yn y carchar.

Cafodd Mairead Philpott a’i gŵr Mick eu darganfod yn euog yn Llys y Goron Nottingham ym mis Ebrill o ddynladdiad, gyda Mick Philpott yn derbyn dedfryd oes.

Cafodd ffrind i’r ddau ohonyn nhw, Paul Mosley, hefyd ei ddedfrydu i 17 mlynedd o garchar am ladd y plant yn anghyfreithlon yn Derby.

Cafodd y chwech o blant, Jade, John, Jack, Jesse, Jayden a Duwayne eu lladd ar ôl i betrol gael ei arllwys a’i gynnau ar waelod grisiau’r tŷ tra oedden nhw i gyd yn cysgu yn y llofft.

Roedd yna gymeradwyaeth o’r galeri cyhoeddus wrth i farnwyr y Llys Apêl yn Nottingham wrthod cais Mairead Philpott i gael ailystyried hyd ei dedfryd.