Y Sefydliad Masnach Deg yn tynnu sylw at y Pythefnos
Ysgol Talacharn yn Sir Gaerfyrddin yw’r 500fed ysgol trwy wledydd Prydain i droi’n ‘Ysgol Fasnach Deg’.

Fe fydd y cyhoeddiad swyddogol yn cael ei wneud heddiw ar ddechrau’r Bythefnos Masnach Deg.

Ar yr un pryd, mae’r Sefydliad Masnach Deg wedi cyhoeddi bod gwerth mwy nag £1.1 biliwn o’r nwyddau egwyddorol wedi eu gwerthu yng ngwledydd Prydain y llynedd.

Mae hynny’n gynnydd o 40% ar y flwyddyn gynt ac mae pennaeth y Sefydliad yn anelu at bron ddyblu hynny erbyn 2012.

“Mae’r her o dlodi byd eang ac annhegwch yn fwy difrifol nag erioed, yn arbennig i’r ffermwyr sy’n tyfu’r coffi, y te, y bananas, reis a chotwm yr ydyn ni’n dibynnu arnyn nhw yn y Deyrnas Unedig,” meddai’r Prif Weithredwr, Harriet Lamb.

“Mae’r biliwn cynta’n dangos potensial ar gyfer newid. Os bydd y cyhoedd, busnesau a chynhyrchwyr yn gallu adeiladu ar y momentwm yna, fe allai Masnach Deg gyrraedd £2 biliwn erbyn diwedd 2012.

“Mae’n uchelgeisiol ond fe fyddai’n newid pethau’n sylfaenol.”

Y ffigurau

Mae mwy a mwy o gwmnïau mawr yn mabwysiadu’r ymgyrch, gan gynnwys archfarchnadoedd rhad Aldi, ac mae cynnydd mewn gwerthiant mewn meysydd newydd fel colur hefyd.

Ond, yn ôl y ffigurau diweddara’, mae’r wasgfa ariannol yn golygu bod pobol yn troi mwy at ddillad rhad yn hytrach na rhai Masnach Deg.

Yn ôl y Sefydliad, dyma’r nwyddau Masnach Deg sy’n cael eu gwerthu bob dydd:

  • 9.3 miliwn o baneidiau o de
  • 6.4 miliwn o baneidiau o goffi
  • 2.3 miliwn o fariau siocled
  • 3.1 miliwn o fananas