Mae cymdeithas adeiladu Nationwide wedi cyhoeddi elw sylweddol o £332miliwn ar gyfer yr hanner blwyddyn ddiweddara’ – naid o 155%.

Dywedodd y grŵp fod twf yn y farchnad dai ym Mhrydain, gan gynnwys cynllun Cymorth i Brynu y Llywodraeth, yn gyfrifol am gyfran sylweddol o’r elw.

Roedd benthyciadau newydd ar gyfer morgeisi wedi codi 37% i £14 biliwn, medden nhw – £13.2miliwn am bob awr weithio – y swm fwya’ ers pum mlynedd.

Yn ôl prif weithredwr Nationwide, Graham Beale, roedd y canlyniadau hanner cyntaf yn “wych” ac roedd y grŵp yn anelu am “berfformiad cryf am weddill y flwyddyn ariannol”.

Cyfaddefodd fod y sector yn derbyn cymorth trwy gynllun benthyg rhad Llywodraeth Prydain ond eu bod hefyd wedi llwyddo i ddenu cwsmeriaid oddi wrth fanciau eraill y stryd fawr.

Cydweithredol – ‘yn gweithio’

Dywedodd Nationwide fod y newyddion yma’n brawf fod banciau cydweithredol yn medru bod yn llwyddiannus mewn bancio cyfredol, er gwaethaf trafferthion banciau fel y Co-operative – mae’n un o’r ychydig gymdeithasau adeiladu mawr sydd wedi aros yn un gydweithredol.

Fe fydd y ffigurau hefyd yn cael eu gweld yn brawf pellach fod y farchnad dai’n ffynnu – ond mae rhai wedi rhybuddio y gallai hynny fod yn swigen annaturiol