Arholiad TGAU
Mae adran arholiadau San Steffan wedi dweud y dylai cyfrifiaduron ddisodli papur a beiro mewn arholiadau.
Dywedodd Isabel Nisbet, prif weithredwr Ofqual, nad oedd disgyblion bellach wedi arfer defnyddio adnoddau ysgrifennu traddodiadol.
Fe allai parhau i’w defnyddio nhw olygu bod canlyniadau arholiadau TGAU a Lefela yn “annilys,” meddai.
Ysgrifennodd yn atodiad addysg papur newydd y Times mai cyfrifiaduron oedd “cyfrwng naturiol disgyblion heddiw wrth iddyn nhw ddod o hyd i wybodaeth”.
“Serch hynny rydyn ni’n parhau i gynnal arholiadau TGAU ar ddarn o bapur,” meddai.
“Mae yna berygl y bydd canlyniadau arholiadau yn annilys oherwydd bod cyfrwng inc a phapur yn mynd yn groes i’r modd y mae disgyblion yn dysgu.”
Os nad yw arholiadau yn cael eu cynnal ar gyfrifiaduron yn fuan, bydd paratoi ar gyfer arholiadau a gwersi yn cael eu cynnal ar wahân, meddai.