Y Canghellor, George Osborne
Roedd ergyd newydd i’r adferiad economaidd ym Mhrydain heddiw wrth i ffigyrau swyddogol ddangos fod y dirywiad yn chwarter olaf 2010 yn waeth na’r disgwyl.

Syrthiodd Cynnyrch Domestig Gros Prydain 0.6% rhwng mis Hydref a Rhagfyr, 0.1% yn fwy na’r amcangyfrif gwreiddiol.

Dyna’r cwymp mwyaf ers dwy flynedd, er ail chwarter 2009.

Y tywydd garw ym mis Rhagfyr sy’n cael y bai am y trafferthion economaidd, ac fe dyfodd yr economi yn ystod 2010 yn ei gyfanrwydd.

Serch hynny mae’r ffigyrau yn waeth nag oedd economegwyr wedi ei ddisgwyl ac yn codi amheuon am gynllun Llywodraeth San Steffan i dorri nôl ar wariant cyhoeddus.

Hyd yn oed heb y tywydd garw, mae’n debygol y byddai’r economi wedi crebachu 0.1% yn y pedwerydd chwarter, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys eu bod nhw’n parhau’n hyderus y bydd twf yn y sector breifat yn gwneud yn iawn am y toriadau yn y sector gyhoeddus.

“Mae’r Canghellor wedi dweud fod ffigyrau’r pedwerydd chwarter yn siomedig a dyw’r cyhoeddiad heddiw ddim yn newid hynny,” meddai.

Dywedodd Howard Archer o gwmni economegwyr IHS Global Insight, fod y ffigyrau yn “hynod o siomedig”.

“Mae yna gwestiynau mawr am sut siâp fydd ar yr economi dros y misoedd nesaf wrth i’r toriadau ddechrau brathu go iawn,” meddai.

“Mae yna arwyddion bod cwsmeriaid yn dechrau gwario llai am eu bod nhw’n wynebu pwysau ariannol mawr.”

Mae Banc Lloegr wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl i weld sut y bydd yr economi yn gwneud yn chwarter cyntaf 2011 cyn ystyried cynyddu’r gyfradd llog.