Michael Moore
Mae Michael Moore o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli ei swydd fel Ysgrifennydd yr Alban yn ystod ad-drefnu’r Cabinet gan David Cameron.
Fe fydd prif chwip y blaid Alistair Carmichael yn ei olynu.
Dywedodd Nick Clegg bod angen “profiad gwahanol” yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.
Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol bod Michael Moore wedi bod yn Ysgrifennydd yr Alban yn ystod “cyfnod allweddol” ym mherthynas y wlad gyda gweddill y DU a’i fod wedi “delio gyda’r heriau yn effeithiol iawn.”
Mae Michael Moore wedi dymuno’n dda i Alistair Carmichael wrth iddo ddechrau yn y swydd.