Mark Carney, Llywodraethwr Banc Lloegr
Fydd yna ddim newid ym mholisi Banc Lloegr yr wythnos yma wrth i adroddiad chwarterol ddangos bod perfformiad economaidd Gwledydd Prydain y gorau ers chwe mlynedd.

Golyga hyn y bydd y cyfraddau yn aros yn 0.5% hyd nes y bydd diweithdra yn syrthio i 7%.

Dengys ffigyrau yn yr adroddiad bod y sector wasanaethau wedi tyfu yn gyflymach nac yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf yn nhrydydd chwarter y flwyddyn.

Mae data am brisiau tai gan Halifax hefyd yn dangos eu bod wedi cynyddu ar gyfartaledd o 6.2% flwyddyn ar ôl blwyddyn ym mis Medi ac mae economegwyr yn proffwydo twf o tua 1.2% yn y trydydd chwarter.