Fe fydd dynes Foslemaidd yn cael cadw fêl llawn dros ei hwyneb mewn achos llys ond bydd yn rhaid iddi dynnu’r gorchudd wrth roi tystiolaeth, fe ddyfarnodd barnwr yn Llundain heddiw.

Bu’r Barnwr Peter Murphy yn rhoi ei ddyfarniad yn Llys y Goron Blackfriars heddiw ar ôl i fargyfreithiwr y wraig 22 oed ddweud y byddai yn erbyn ei daliadau crefyddol i orfod tynnu’r fêl.

Roedd mudiad hawliau Liberty wedi dweud y dylai ganiatáu i’r wraig gadw’r benwisg, gan honni mai “synnwyr cyffredin” yw hynny – ond mae rhai ym myd y gyfraith yn erbyn.

Mae’r gweinidog yn y Swyddfa Gartref, Jeremy Browne, yn dweud bod eisiau trafodaeth ynglŷn â gwahardd y fêl llawn yn gyhoeddus.