Jon Venables pan oedd yn fachgen 10 oed
Mae llofrudd James Bulger wedi cael ei ryddhau o’r carchar am yr eilwaith.

Fe ddychwelodd Jon Venables, 31 oed, i’r carchar yn 2010 am lawrlwytho delweddau anweddus o blant yn cael eu cam-drin. Daeth cadarnhad heddiw ei fod wedi cael ei ryddhau o’r carchar.

Roedd Venables eisoes wedi treulio wyth mlynedd dan glo am lofruddio’r bachgen bach James Bulger yn Lerpwl ym 1993.

Yn ôl adroddiadau, mae wedi cael enw newydd am y pedwerydd tro, ar gost o £250,000.

Ond mae tad James Bulger, Ralph, yn credu y bydd Venables yn troseddu eto.

Yn ôl ffrind i’r teulu, roedden nhw wedi cael eu cadw “yn y tywyllwch” ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf. Mae mam James Bulger, Denise Fergus, eisoes wedi dweud bod Venables yn “peri perygl i’r cyhoedd.”

Roedd Venables yn 10 oed pan lofruddiodd James Bulger ar ôl iddo ef a’i ffrind, Robert Thompson, gipio’r bachgen bach o ganolfan siopa yn Bootle.