Bedd James Bulger
Mae teulu James Bulger yn dweud bod y penderfyniad i ail-ryddhau un o’i lofruddion yn “codi ofn” arnyn nhw.

Fe benderfynodd y Bwrdd Parôl ddoe y dylai Jon Venables gael ei ryddhau – am yr ail dro ers iddo ef a Robert Thompson lofruddio’r bachgen tair oed yn Lerpwl yn 1993.

Ar ôl ei ryddhau y tro cynta’, roedd wedi cael ei arestio a’i garcharu eto yn 2010 am fod â phornograffi plant yn ei feddiant.

‘Anghywir’

Fe fydd Jon Venables yn cael enw a hunaniaeth newydd er mwyn ei ddiogelu rhag pobol a allai fod eisiau ymosod arno.

Ond, wrth siarad ar ran tad James Bulger, Ralph, fe ddywedodd y cyfreithiwr Robin Makin fod y pendeerfyniad yn anghywir.

“Mae Ralph yn ofni y gallai rhywun diniwed gael ei gamgymryd am Jon Venables a chael ei anafu neu ei ladd.”

Ar ei thudalen Trydar, dywedodd mam James, Denise Fergus: “Jyst methu credu beth sy’n rhaid i fi fynd drwy hyn ETO.”

Y cefndir

Cafodd James Bulger ei gipio, ei arteithio a’i lofruddio gan Venables a Thompson pan oedden nhw’n ddeg oed ac fe gafodd y ddau eu rhyddhau am y tro cynta’ yn 2001.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi pwysleisio y bydd y ddau yn aros ‘ar drwydded’ am weddill eu hoes – mae hynny’n golygu amodau llym a’r posibilrwydd y gallen nhw gael eu galw’n ôl i’r carchar pe baen nhw’n torri’r amodau.