Jon Venables
Mae Jon Venables, un o’r rhai a lofruddiodd y bachgen bach James Bulger, wedi cael ei ryddhau ar barôl ar ôl iddo gael ei anfon yn ôl i’r carchar am edrych ar bornograffi plant.

Cafodd Venables, sydd bellach yn ei 30au, ei garcharu am 2 flynedd yn 2010 ar ôl lawrlwytho a dosbarthu delweddau anweddus o blant.

Yn gynharach eleni, roedd rhieni James Bulger – Denise Fergus a Ralph Bulger – wedi annerch gwrandawiad parôl Venables ac wedi pwyso ar yr awdurdodau i’w gadw yn y carchar.

Dywedodd llefarydd ar ran Ralph Bulger ei fod yn “hynod siomedig” o glywed am y newyddion heddiw.

Mae llefarydd ar ran y Bwrdd Parôl wedi cadarnhau bod penderfyniad wedi ei wneud i ryddhau Venables.

Cafodd James Bulger, oedd yn ddwy oed, ei gipio gan Venables a Robert Thompson mewn canolfan siopa yn Lerpwl cyn iddyn nhw ei arteithio a’i ladd.

Roedd y ddau fachgen yn 10 oed ar y pryd. Cafodd y ddau eu carcharu am oes ond eu rhyddhau ar drwydded yn 2001 gydag enwau newydd.