Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May wedi lansio ymgynghoriad ar bwerau’r heddlu i gynnal archwiliadau stopio a chwilio.
Dywedodd Theresa May wrth Dŷ’r Cyffredin fod nifer yr achosion o stopio a chwilio sy’n arwain at arestio unigolion, yn llawer rhy isel. Mae ffigyrau yn dangos fod dros filiwn o achosion o stopio a chwilio yn digwydd bob blwyddyn ond dim ond 9% sy’n arwain at arestio rhywun.
Ychwanegodd Theresa May fod ystadegau’n dangos fod pobl ddu a phobl o dras ethnig saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u harchwilio gan yr heddlu o’i gymharu â’u cyfoedion gwyn.
Meddai: “Mae’r Llywodraeth yn bryderus ynglŷn â defnydd o archwiliadau stopio a chwilio am ddau reswm. Yn gyntaf rhaid bod yn deg wrth ei ddefnyddio, ac mewn ffordd sy’n hybu hyder y gymuned yn yr heddlu yn hytrach na’i danseilio. Yn ail, pan mae cam ddefnydd o stopio a chwilio, mae’n wastraff amser.”