Mae prisiau tai wedi codi ynghynt eleni nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y tair blynedd ddiwetha’, yn ôl cymdeithas adeiladu’r Nationwide.
Mae hynny’n cynnwys cynnydd o 1.2% tros ddeuddeg mis yng Nghymru – mae hynny’n golygu fod pris tŷ ar gyfartaledd yng Nghymru wedi codi i £133,432.
Ond mae hynny’n dal i fod yn is na phan oedd prisiau ar eu hucha’ yn 2007 – 13% yn is, meddai’r Nationwide.
Yn ôl y gymdeithas, mae’r cynnydd yn rhannol oherwydd cynlluniau i’w gwneud hi’n haws i bobol gael morgeisi.
Llundain – uwch nag erioed
Llundain yw’r eithriad mawr o hyd – mae prisiau yno ar eu hucha’ erioed, 5% yn uwch nag yr oedden nhw hyd yn oed yn 2007.
Maen nhw’n dal i fod yn is nag ar ddechrau’r dirwasgiad ariannol yn y rhan fwya’ o ardaloedd – 53% yn is yng Ngogledd Iwerddon.