Mae cwmni awyrennau rhad, Easy Jet, wedi cyrraedd carreg filltir pwysig yn eu hanes trwy gludo 60 miliwn o deithwyr yn flynyddol.

Yn ôl ffigyrau sydd wedi’u rhyddhau gan y cwmni, teithiodd 60,048,534 o bobl gyda Easy Jet y llynedd, sy’n gynnydd o 5.6% ar y flwyddyn cynt.

Sefydlwyd Easy Jet yn 1995 ac mae’r nifer sy’n teithio â’r cwmni wedi dyblu ers 2005. Mae’r cwmni yn berchen ar 212 awyren ac yn hedfan i 137 o feusydd awyr mewn 33 o wledydd.

Dywedodd Prif Weithredwr Easy Jet, Carolyn McCall: “Rydym yn hynod o falch o ddathlu’r llwyddiant yma sy’n gam nodedig yn hanes ein cwmni.

“Mae’n arwydd o’r gwaith caled a’r ymroddiad sydd gan staff Easy Jet.”