Yr actores Olivia Colman oedd enillydd mawr y noson yng ngwobrau teledu’r Baftas neithiwr wedi iddi gipio dwy wobr am ddwy rôl wahanol iawn.

Fe enillodd hi’r wobr am yr actores gefnogol orau am ei rôl fel mam yn ‘Accused’ (Mo’s Story) ac aeth yr ail wobr iddi am y fenyw orau mewn comedi am ei pherfformiad yn y rhaglen gomedi ddychan am y gemau Olympaidd, ‘Twenty Twelve’.

Graham Norton oedd cyflwynydd y noson, er iddo gael toriad bach i gasglu ei dlws am y rhaglen adloniant orau.

Aeth y gyfres ddrama orau i ‘Last Tango in Halifax’ ac aeth y wobr am y comedi sefyllfa orau i ‘Twenty Twelve’.

Sheridan Smith gafodd tlws yr actores orau am ei rôl fel gwraig y lleidr trên enwog, Ronnie Biggs, yn ‘Mrs Biggs’. Ben Wishaw enillodd yr actor gorau am Richard II.

Aeth y wobr am y rhaglen chwaraeon a digwyddiadau byw i Channel 4 am ei darpariaeth o Gemau Paralympaidd 2012.

Simon Russell Beale oedd yr actor cefnogol orau am ei berfformiad fel Falstaff yn fersiwn y BBC o ‘Henry IV Part 2’.

Gwobr arbennig i Claire Balding

Aeth y wobr am y rhaglen reality orau i ‘Made in Chelsea’ a ‘The Great British Bake Off’ aeth a’r rhaglen nodwedd orau..

Roedd gwobr arbennig i’r cyflwynydd chwaraeon, Claire Balding, a fu’n sylwebu ar lawer o raglenni’r Gemau Olympaidd a chafodd Michael Palin Gymrodoriaeth Bafta.

Enillodd ‘EastEnders’ y wobr am sebon a drama barhaus orau ac aeth y wobr am y dyn orau mewn comedi i Steve Coogan am ei bortread o Alan Partridge yn ‘Welcome To The Places Of My Life’.

‘The Revolution Will be Televised’ enillodd y rhaglen gomedi orau ac aeth Gwobr y Gynulleidfa Radio Times, sy’n cael ei ddewis drwy bleidlais gan y cyhoedd, i’r ddrama waedlyd ‘The Game of Thrones’.

Enillodd Grayson Perry  y wobr am y rhaglen ffeithiol arbenigol orau am ‘All In The Best Possible Taste’.

Aeth y wobr ryngwladol i’r rhaglen ‘Girls’ o’r Unol Daleithiau ac Alan Carr enillodd y perfformiad adloniant orau am ei gyfres gomedi a sgwrsio.

Aeth y wobr am gyfres ffeithiol i BBC Three am ‘Our War’ a oedd yn dilyn digwyddiadau ar y rheng flaen yn Afghanistan o safbwynt y milwyr.

Ymchwiliad i gam-drin plant yn yr eglwys Gatholig enillodd y wobr am y rhaglen materion cyfoes orau ac aeth y wobr am ddarpariaeth newyddion orau i Granada am ‘Hillsborough – the truth at last’.

‘Murder’ gafodd y ddrama unigol orau a ‘7/7: One Day in London’ enillodd y wobr am y rhaglen ddogfen unigol orau.

Addasiad y BBC o nofel John Braine, ‘Room at the Top’ enillodd y wobr am gyfres fer orau.