Mae Ymddiriedolaeth GIG Canolbarth Swydd Stafford, fu ynghanol sgandal yn ddiweddar, wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr, yn ôl rheoleiddwyr.

Dyma’r ymddiriedolaeth gyntaf i gael ei rhoi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Dywedodd y rheoleiddiwr Monitor eu bod wedi penodi dau o weinyddwyr i “ddiogelu dyfodol y gwasanaethau iechyd” sy’n cael eu darparu gan yr ymddiriedolaeth ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd y byddai’r clinigwr Dr Hugo Mascie-Taylor ynghyd ag Alan Bloom o gwmni Ernst & Young yn rheoli’r ymddiriedolaeth o yfory ymlaen.

Dywedodd Monitor eu bod wedi cymryd y penderfyniad gan nad oedd yr ymddiriedolaeth yn gynaliadwy – yn ariannol nac yn glinigol – yn ei ffurf bresennol.

Roedd yr ymddiriedolaeth yn rhan o ymchwiliad cyhoeddus i’r “trychineb” yn Ysbyty Stafford lle bu farw cannoedd o gleifion yn ddiangen am eu bod wedi eu “hesgeuluso’n rheolaidd” rhwng 2005 a 2009.

Fe fydd gwasanaethau’n parhau yn ôl yr arfer yn ysbytai Stafford a Cannock.