Syr Robert Edwards
Mae gwyddonydd oedd yn flaenllaw ym maes IVF wedi marw yn 88 oed.

Arweiniodd gwaith Syr Robert Edwards at enedigaeth y babi tiwb profi cyntaf, Louise Brown, yn 1978.

Enillodd wobr Nobel am ei waith  yn 2010.

Cafodd ei eni ym Manceinion yn 1925.

Bu’n gwasanaethu’r Fyddin yn yr Ail Ryfel Byd, y cyfnod pan astudiodd Fioleg ym Mhrifysgol Cymru Bangor a Phrifysgol Caeredin.

Ym Mhrifysgol Caeredin, cwblhaodd ei ymchwil PhD ar ddatblygiad embryos llygod.

Hyd at ei farwolaeth, bu’n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caergrawnt.