Prifysgol Rhydychen
Rhwyfodd Rhydychen i fuddugoliaeth yn y 159fed ras gychod y prifysgolion yn prynhawn yma ar ôl i’r trefnwyr gyflwyno mesurau diogelwch llym i osgoi helynt fel y llynedd.

Roedd y Royal Marines ar waith yn afon Tafwys ar ôl i ras 2012 gael ei hatal pan nofiodd Trenton Oldfield i lwybr y ddau griw.

Roedd y ffefrynnau Rhydychen yn arwain y rhan fwyaf o’r ras ac fe wnaethon nhw groesi’r llinell hyd a hanner ar y blaen i Gaergrawnt.

Cwblhaodd yr enillwyr y cwrs pedair milltir a chwarter mewn 17 munud a 27 eiliad, gan godi nifer buddugoliaethau Rhydychen i 77 o gymharu â 81 Caergrawnt.