Ysbyty Leeds
Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr wedi gorchymun na ddylid cynnal llawdriniaethau ar galonnau plant am y tro yn Inffyrmari Gyffredinol Leeds.

Bydd adolygiad mewnol yn digwydd yn ystod y tair wythnos nesaf i ystyried nifer o bryderon am faint o blant sy’n marw yno yn dilyn llawdriniaethau o’r fath.

Penderfynwyd atal y llawdriniaethau yn dilyn cyfarfod ddoe rhwng uwch swyddogion y GIG yn Lloegr, y Comisiwn Safonnau Gofal ac ymddiriedolwyr yr ysbyty.

Dywedodd Sir Bruce Keogh, cyfarwyddwr meddygol GIG Lloegr bod yna sawl cwestiwn i’w gofyn a’u hateb.

“Mae’n hollol briodol nad ydyn ni’n cymeryd risg tra’n bod ni yn ystyried y cwestiynau yma,” meddai.

Anghytuno

Mae’r Aelod Seneddol lleol, Stuart Andrew ar y llaw arall yn dweud nad ydio’n ymwybodol o unrhyw wybodaeth all  fod yn sail i’r pryderon am yr Inffrymari.

“Dwi wedi treulio llawer iawn o amser yn edrych ar yr oll o’r wybodaeth a tydw’i ddim yn ymwybodol bod yr hyn sy’n digwydd ddim yn ddiogel na chwaith bod y graddfeydd yn uwch yn yno nag yn unman arall,” meddai.

Ychwanegodd nad oedd wedi derbyn unrhyw gwyn am safon y gofal yn yr uned.

Mae yna ymgyrch rymys ar y gweill i achub llawdriniaethau ar galonnau plant yn Leeds ers tro.

Dydd Mercher diwethaf fe wnaeth Barnwr yn yr Uchel Lys atal rhan o’r broses ymgynghori sydd wedi clustnodi’r adran berthnasol yn yr Inffrymari fel un y dylid ei chau.

Dywedodd Mrs Ustus Nicola Davies bod yna “anhegwch sylfaenol” yn y broses.