Justin Welby, Archesgob Caergaint
Mae Archesgob Caergaint, Justin Welby, wedi ymddiheuro heddiw i wraig ifanc oherwydd nad oedd ei chwyn am gam-drin wedi cael ei chymryd o ddifri gan Deon Ynys Jersey.

Mi gafodd y Deon ei wahardd gan Esgob Caer-wynt (Winchester), Tim Dakin, ddoe yn dilyn cyhoeddi adroddiad beirniadol am y gwyn a wnaethpwyd  yn 2008 gan y ddynes am ymddygiad ymosodol warden eglwys yn Jersey.

Mae’r adroddiad yn dweud nad oedd Deon Robert Key wedi cymryd y gwyn o ddifri, doedd o ddim wedi cyfathrebu’n dda, a doedd o chwaith ddim wedi gweithredu mewn unrhyw ffordd i ddelio â’r mater.

Dywedodd Justin Welby ei fod yn cymeradwyo ymateb cyflym a phendant Esgob Caer-wynt. Roedd hefyd am gynnig ei ymddiheuriadau personol i’r wraig, meddai, “ a gafodd ei gadael i lawr yn ddifrifol gan y rhai wnaeth hi droi atyn nhw am gymorth.”

Dywedodd hefyd yn ei fod yn cefnogi’r ymchwiliad i’r mater gan Esgob Caer-wynt.

Mae’r Parchedig Dakin hefyd wedi ymddiheuro wrth y wraig am y ffordd y cafodd ei thrin.