Mae cwmni Rolls-Royce wedi apwyntio un o gyfarwyddwyr BP yn Gadeirydd newydd. Fe fydd Ian Davis yn arwain y cwmni yn wyneb honiadau o lwgr-wobrwyo a llygredd.

Fe fydd yn dechrau ar ei waith ar Fai 2, pan fydd Syr Simon Robertson yn camu o’r neilltu wedi wyth mlynedd yn y gadair.

Ar hyn o bryd, mae’r Swyddfa Dwyll Difrifol (SFO) yn ymchwilio i honiadau yn erbyn y cwmni.

Mae ffigyrau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos fod Rolls-Royce wedi cael blwyddyn dda arall – fe fu cynnydd o 24% yn yr elw, i £1.4bn.