Galw am oedi cyn rhoi rhagor o frechlynnau AstraZeneca yn Iwerddon
Pryderon ar ôl adroddiadau yn Norwy fod y brechlyn yn ceulo’r gwaed
Cyhoeddi’r camau cyntaf tuag at lacio’r cyfyngiadau
Cychwyn ar “ddull gofalus, pwyllog a graddol o lacio’r cyfyngiadau coronafeirws,” medd Llywodraeth Cymru
Gweithwyr DVLA yn pleidleisio dros streicio
“Mae ein haelodau wedi anfon neges glir nad ydyn nhw’n ddiogel yn eu gweithle.”
Cyfyngiadau ‘aros yn lleol’ amrywiol yn bosib, medd y Gweinidog Iechyd
Vaughan Gething yn awgrymu y bydd pobl sy’n byw mewn ardaloedd mwy gwledig yn cael teithio mwy o bellter na phobl mewn trefi a dinasoedd
Cwest yn clywed y byddai cartref nyrsio lle bu farw saith o bobol wedi cael ei gau heddiw
Bu farw’r trigolion mewn cartref gofal yn Nhredegar Newydd rhwng 2003 a 2005
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £50m ychwanegol i barhau â’r gwaith o olrhain cysylltiadau dros yr haf
“Mae profi ac olrhain yn parhau i fod yn rhan hanfodol o’n dull gweithredu wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio,” medd Vaughan Gething
Mwy na miliwn o bobol wedi derbyn eu brechlyn cyntaf
Bellach, mae gan bron i 40% o’r boblogaeth sy’n oedolion yng Nghymru rywfaint o ddiogelwch rhag Covid-19
Cyfergydion: ‘dylid gweithredu ar unwaith, nid ar ddiwedd ymchwiliad’
Mae’r cyfreithiwr Richard Boardman yn cynrychioli naw o chwaraewyr sy’n dwyn achos, gan gynnwys y Cymro Alix Popham
Dros 60% o bobol ag anableddau’n teimlo’n unig oherwydd y pandemig
Yn ôl elusen Sense, mae’r pandemig wedi gwaethygu problem oedd yn bod cyn y pandemig
Disgwyl y bydd miliwn o bobol wedi derbyn brechlyn cyntaf erbyn diwedd y dydd
Hyd yma, mae 998,296 o bobol yng Nghymru wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn a 183,739 o bobol wedi derbyn yr ail ddos