Y Gweinidog Iechyd newydd yn rhybuddio fod y “coronafeirws yn dal i fod gyda ni”
Ac Eluned Morgan hefyd yn cyfaddef fod y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu tasg “anferthol” o ran rhestrau aros
Ymchwil yn awgrymu y gall cŵn wedi’u hyfforddi arogli coronafeirws
Mae’r ymchwil yn yn seiliedig ar chwe chi a brofodd dros 3,500 o samplau arogleuon
Ffrainc yn ystyried cyfyngiadau llymach ar bobol o wledydd Prydain yn sgil amrywiolyn India
Un o weinidogion Llywodraeth Ffrainc yn awgrymu “mesurau iechyd sydd ychydig yn gryfach”
Brechlynnau Covid-19 yn gwarchod pobol rhag amrywiolyn India, medd Iechyd Cyhoeddus Lloegr
Ond mae pa mor effeithiol yw brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca Rhydychen yn erbyn gwahanol amrywiolion yn amrywio’n sylweddol
Covid-19: Dominic Cummings yn gwneud honiadau damniol am fwriad gwreiddiol Llywodraeth Prydain
Cyn-brif ymgynghorydd Boris Johnson yn dweud mai adeiladu imiwnedd torfol oedd y cynllun yn wreiddiol, a hynny drwy adael i’r feirws ledaenu
Covid-19: Cymru’n anfon rhagor o gymorth i India
“Mae’n briodol ein bod ni’n rhan o’r ymateb byd-eang,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru
Astudiaeth yn dweud bod ansicrwydd ynghylch y brechlyn yn arwain at oedi
Mae cyfran sylweddol yn dal yn ansicr ac yn teimlo bod angen mwy o amser arnynt i benderfynu
Mwy o bobol nag erioed ar restrau aros Gwasanaeth Iechyd Cymru
Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi buddsoddiad gwerth £100m wrth i ffigurau diweddaraf ddangos bod 18% o boblogaeth y wlad ar restrau aros
Hen daid yn beicio pum milltir ar ei ben-blwydd yn 90 oed er mwyn codi arian at ysbyty lleol
Dewisodd Dewi Griffiths godi arian at ward plant Ysbyty Glangwili oherwydd bod ganddo 20 o wyrion a wyresau, a 39 o or-wyrion a gor-wyresau
Ysgol gynradd yng Nghaerdydd ynghau i’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dilyn achosion o Covid-19
Pennaeth Ysgol Gynradd Millbank yn dweud mewn llythyr ei bod hi’n ymwybodol nad yw rhai rhieni wedi bod yn cadw at y canllawiau